Ifan Dafydd | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cynhyrchydd recordiau |
Cerddor, cynhyrchydd, cyfansoddwr a pherfformiwr cerddoriaeth pop Cymraeg o Wynedd yw Ifan Dafydd. Roedd yn aelod o'r band Derwyddon Dr Gonzo. Mae'n cyhoeddi cerddoriaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.[1] Galwyd ef yn "athrylith cerddoriaeth electroneg" yn y cylchgrawn Y Selar.[2] Mae ei gerddoriaeth Gymraeg hefyd wedi ei chwarae ar orsafoedd radio Saesneg megis BBC Radio 6 Music.[3]